Hygyrchedd

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cydnabod pwysigrwydd o ddarparu safwe sy’n hawdd i’w ddefnyddio gan bob grw^p defnyddiol, gan gynnwys rhai sydd ag anabledd. Mae ein safonau hygyrchedd mewn lle gyda’r bwriad o wneud y cynnwys yn hawdd i ystod eang o ymwelwyr eu cyrchu, er gwaethaf anabledd neu amhariad. Cyflawnwyd hyn drwy lynu at ymarferion da, megis cydymffurfio gyda safonau W3C a thrwy gyfeirnod gofalus i’r safonau a rhoddwyd gan yr Uned eLywodraeth.

Nodweddion hygyrchu ar y safwe hon

Mae’r nodweddion canlynol yn gwella mordwyaeth i ddefnyddwyr darllen scrîn, mordwyaeth bysellfwrdd a defnyddwyr o porwyr testun yn unig.

  • Allweddi cyrchu

    Mae rhai porwyr yn cefnogi neidio i ddolenni penodol drwy deipio allweddi fel â ddiffiniwyd ar y safwe. Ar “Windows” gallwch wasgu’r allwedd “alt” a’r allwedd cyrchu; ar Macintosh, gallwch wedyn wasgu’r allwedd “ctrl” a’r allwedd cyrchu.

    Mae’r tudalennau ar y safwe hon yn glynu at safonau allweddi cyrchu Llywodraeth y DU.

    S – Sgipio mordwyaeth
    1 – Tudalen gartref
    2 – Am C&THEM
    5 – Map y safle
    6 – Cymorth
    0 – Manylion allweddi cyrchu.

  • Mae’r dewislen mordwyaeth wedi marcio i fyny fel rhestrau HTML. Mae hyn yn sicrhau bod y nifer o ddolenni yn y rhestr yn cael ei ddarllen ar y dechrau a gellir sgipio drosodd hwy yn hawdd.
  • Mae’r lluniau a ddefnyddir ar y safwe hon yn cynnwys priodoleddau disgrifiadol. Mae graffeg addurniadol yn unig yn cynnwys priodoleddau “alt” gwag.
  • Rydym wedi cwirio ffont y safwe a’i cyfuniad lliw cefndirol i sicrhau bod y gwybodaeth yn parhau i fod yn glir er gwaethaf lliwddallineb.
  • Mae taflenni steil rhaeadru (CSS – Cascading style sheets) wedi eu defnyddio i osod y lliw a’r maint o’r testun o fewn pob tudalen. Gall y fformat gael ei ddiystyru drwy:
    • Y tu fewn i MS Explorer drwy ddewis Tools – Internet options–Accessibility
    • Yn Netscape / Firefox drwy ddewis “Edit –Preferences-Appearances-Fonts”
    • Fel arall, dewisiwch “view” yna “text size” yn eich porthwr i newid maint y testun.
  • Mae’r adnodd chwilio ar gael drwy gydol y safle i’ch helpu i ddarganfod y cynnwys yr ydych ei angen (allwedd cyrchu 4).

Safonau Cydymffurfio

Yn gyfredol, nid yw’r safwe hon yn cwrdd â canllawiau blaenoriaethau 1 o’r Canllawiau Mynediad i Gynnwys y We W3C, fodd bynnag rydym â’r bwriad i gyrraedd o leiaf safon WCAG A.

  • Rydym yn ymdrechu i ufuddhau i ysbryd y Ddeddf Anffafriaeth Anabledd (Disability Discrimination Act DDA) 1995 parthed i darpariaeth o wasanaethau ar-lein ac fel a ofynnir gan y Comisiwn Hawliau Anabl (Disability Rights Commission DRC.)
  • Tra y byddwn yn defnyddio Bobby i brofi mynediad, un agwedd yw hyn o’r gyfundrefn profi. Fel rhaglen gyfrifiadurol, nid yw’r prawf Bobby mor ddibynnol â gwerthuso arbenigol.

Adborth

Os oes gennych unrhyw gwestiynnau ynglyn â hygyrchedd y safle, neu os ydych yn cael unrhyw drafferth yn defnyddio’r safle hon yna defnyddiwch ein ffurflen adborth gan rhoi manylion o’ch ymholiad.