Mae'r Cynllun Cyhoeddiadau wedi ei drefnu fesul pennawd pwnc
lefel uchel, bras er mwyn eich cynorthwyo i ddod o hyd i'r wybodaeth yr
ydych yn ei cheisio. Dan bob un o'r penawdau pwnc bras hyn mae grwpiau'n
cynnwys dosbarthiadau gwybodaeth adnabyddadwy y mae Cyllid y Wlad yn cyhoeddi
neu'n bwriadu cyhoeddi. Y dosbarthiadau hyn yw ymrwymiad cyfreithiol
yr Adran. Ymhob dosbarth gwybodaeth ceir:
Bydd yr wybodaeth sydd ar gael ym mhob dosbarth fel arfer yn cynnwys y flwyddyn gyfredol a'r ddwy flynedd blaenorol o leiaf, oni nodir yn wahanol. Pan gyfeirir o fewn y dosbarthiadau at ddogfennau penodol, y fersiwn "terfynol" fydd ar gael oni nodir yn wahanol. Mae'r dosbarthiadau gwybodaeth yn y Cynllun Cyhoeddiadau hwn wedi'u grwpio dan y penawdau pwnc canlynol. 1. Strwythur a threfniadaeth Cyllid y Wlad: gwybodaeth am strwythur a threfniadaeth yr Adran (er enghraifft aelodau Bwrdd Cyllid y Wlad) a'i rôl, ac mae'n cynnwys yr Adroddiad Blynyddol i'r Senedd. 2. Strategaeth a chyflawniad adrannol: cynlluniau a rhaglenni rhag blaen gan gynnwys targedau sy'n darparu gwybodaeth am gyfeiriad busnes yr Adran, gwybodaeth am gostau rhedeg, safonau gwasanaeth a chanlyniadau a gafwyd, gwybodaeth am feysydd busnes yr Adran a gweithrediadau o ddydd i ddydd. 3. Cyfarwyddyd i staff a chwsmeriaid: cyfarwyddyd technegol mewnol i aelodau yng nghyswllt y materion y mae'r Adran yn gyfrifol amdanynt, rheolau, gweithdrefnau, a.y.b. sy'n darparu dealltwriaeth well o'r modd y mae Cyllid y Wlad yn ymwneud â'r cyhoedd; hefyd cyfarwyddyd allanol a baratoir ar gyfer cwsmeriaid yr Adran. 4. Ymgynghoriadau a chysylltiadau allanol: gwybodaeth am ymgynghoriadau cyhoeddus, a gwaith yr Adran gyda rhai cyfrannog e.e. cyrff cyfrifwyr proffesiynol, grwpiau diddordeb. 5. Cyhoeddiadau adrannol: cyhoeddiadau rheolaidd ac unigryw, er enghraifft Datganiadau i'r Wasg, adroddiadau a gyhoeddir ar agweddau ar waith yr Adran, areithiau a wnaed gan aelodau o uwch dîm rheoli Cyllid y Wlad. 6. Gweithdrefnau cwyno: gwybodaeth am weithdrefnau cwyno a.y.b. yr Adran. 7. Adnoddau dynol: gwybodaeth am faterion yn gysylltiedig â staffio, swyddi gwag ar hyn o bryd, a.y.b. 8. Caffael: gwybodaeth am bolisïau caffael a chyflenwyr, gwybodaeth ynglyn â thendro a.y.b. 9. Fframwaith deddfwriaethol: gwybodaeth am y gyfraith sy'n rheoli Cyllid y Wlad ac yn sefydlu'r fframwaith ar gyfer ei gweithrediadau, gwybodaeth am Gyllideb flynyddol y Canghellor, gan gynnwys adroddiadau y mae gofyn i'r Adran eu paratoi yn unol â deddfwriaeth yn ymwneud â swyddogaethau statudol Cyllid y Wlad. 10. Amrywioldeb: gwybodaeth am bolisi
cyfleoedd cyfartal yr Adran gan gynnwys cysylltiadau hiliol. |
|
