Esbonio ei P2 Hysbysiad Cod
Mae’r dudalen hon yn esbonio eich cod treth a’r hyn ddylech ei wneud gydag ef.
Pam rydw i’n cael mwy nag un Hysbysiad Cod bob blwyddyn?
Efallai y cewch fwy nag un cod treth mewn blwyddyn. Gallai hyn fod am ddau reswm:
- Mae gennych fwy nag un swydd neu bensiwn neu gyfuniad o’r ddau. Efallai yr anfonwn god treth ar wahân atoch ar gyfer pob un. Yn aml bydd y codau’n wahanol oherwydd bod llawer o bobl yn defnyddio eu lwfans treth ar gyfer eu prif swydd neu bensiwn. Gall hyn olygu na fydd unrhyw lwfansau ar gael i’w gosod yn erbyn eich swydd/pensiwn arall.
- Efallai y byddwch chi neu eich cyfrifydd, os ydych yn defnyddio un, wedi dweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau sy’n effeithio ar swm y dreth sy’n rhaid i chi ei thalu ar un swydd /pensiwn penodol.
Beth mae fy nghod treth yn ei olygu a sut caiff ei gyfrifo?
Mae eich cod treth yn dweud wrthych faint o arian y gallwch ei dderbyn cyn talu treth. Dyma’r swm y gallwch ei gael yn rhydd o dreth.
Mae’r symiau sy’n rhydd o dreth wedi eu seilio ar eich lwfansau. Mae gan bawb yr hawl i dderbyn rhywfaint o lwfansau treth oherwydd bod y llywodraeth yn caniatáu pawb i ennill swm penodol bob blwyddyn cyn talu treth (caiff pobl sy’n 65 neu’n hyn lwfansau personol uwch) .
Caiff eich lwfansau eu hychwanegu at ei gilydd i roi cyfanswm, sef y swm y gallwch ei dderbyn cyn talu treth. Dangosir hwn ar ochr dde'r blwch ar dudalen flaen yr Hysbysiad Cod.
Unwaith eto, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, gellir gostwng y swm sy’n rhydd o dreth os byddwch yn derbyn ‘cilfanteision’. Mae’r rhan fwyaf o ‘gilfanteision’ yn drethadwy ac fe’u gelwir yn fuddiannau trethadwy. Y buddiannau trethadwy mwyaf cyffredin yw:
- yswiriant meddygol
- car cwmn
Ychwanegir y buddiannau trethadwy a’r addasiadau eraill at ei gilydd. Dyma’r ffigurau minws a welir i’r chwith o’r blwch ar dudalen flaen yr Hysbysiad Cod.
Tynnir cyfanswm eich buddiannau trethadwy ac addasiadau eraill o gyfanswm eich lwfansau treth, i roi cyfanswm cyflawn o’r hyn y gallwch ei dderbyn cyn eich bod yn talu treth. Dyma’r rhif olaf a ddangosir yn y blwch ar dudalen flaen eich Hysbysiad Cod.
Sut mae fy nod treth yn cael ei bennu o’r rhif hwn?
Eich cod treth yw cyfanswm eich lwfansau gyda’r digid olaf wedi ei ddileu. Felly, os oes gennych lwfans rhydd o dreth o £4,124 bydd eich cod treth yn 412.
Beth am y llythrennau yn fy nghod treth?
Fel arfer bydd eich cod treth yn cynnwys rhifau a llythyren ar y pen. Fel arfer bydd y llythyren ar y pen at ddefnydd CThEM a’ch cyflogwr/darparwr eich pensiwn yn unig.
Mae fwy o wybodaeth ynglyn â chyfraddau a lwfansau yn
Mae fwy o wybodaeth ynglyn â'ch P2 'Hysbysiad Cod TWE' yn
Mae fwy o wybodaeth ynglyn â chodau treth a lwfansau ar wefan Directgov:
