Hunanasesiad: Cyflogwyr  
  Cynnwys
Sut mae Hunanasesiad yn effeithio arna i?

Mae Hunanasesiad yn system i bobl sy'n derbyn ffurflenni treth. Gyda'r system hon, cyflwynwyd newidiadau i rwymedigaethau cyflogwyr o 1996-97 ymlaen.

Rheolau'r cyflogwr

Y prif newidiadau yw:

  • darparu ffurflenni P60 i weithwyr erbyn 31 Mai ar ôl diwedd y flwyddyn dreth
  • cyfrifo'r hyn sy'n gyfwerth mewn arian parod â buddiannau
  • darparu manylion am eu treuliau a'u buddiannau ('manylion P11D') i weithwyr perthnasol yn ogystal â Chyllid y Wlad erbyn 6 Gorffennaf ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.

Pa ffurflenni ddylwn i eu defnyddio?

Ffurflenni

P45
O 6 Ebrill 1996 dylech fod yn defnyddio'r ffurflen P45 pedair ran. Mae Rhan 1A i weithwyr ei chadw gyda'u cofnodion treth.

P60
O 1996/97 ymlaen, mae dyddiad cau o 31 Mai ar ôl diwedd y flwyddyn dreth ar gyfer darparu ffurflenni P60 i weithwyr. Os hoffech ddylunio eich P60 eich hun, edrychwch ar yr adran 'Awgrymiadau ar ddylunio P60' dan yr adran 'Awgrymiadau ar ddyluniad a chynnwys ffurflenni eraill'

P11D a P9D
O 1996-97 ymlaen mae'r P11D neu'r P9D yn cynnwys blychau i chi nodi'r hyn sy'n gyfwerth mewn arian parod pob buddiant.

O 2000-01 ymlaen mae'r P11D yn cynnwys blychau ychwanegol i'ch helpu i benderfynu ar ba eitemau y codir y tâl CYG Dosbarth 1A newydd. Gallwch gael mwy o wybodaeth yn y canllaw CWG2 - Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiannau (ffeil PDF - 196K).

Gallwch barhau i anfon eich manylion P11D i'ch Swyddfa Dreth mewn fformat ansafonol os ydynt yn cytuno ar hyn. Gallwch ddarparu manylion P11D i'ch gweithwyr mewn unrhyw fformat a ddymunwch, cyhyd â bod y manylion angenrheidiol yn cael eu dangos. Nid oes rhaid i chi gytuno ar hyn gyda'ch Swyddfa Cyllid y Wlad.

Y dyddiad cau ar gyfer darparu manylion P11D i'r swyddfa dreth a gweithwyr perthnasol yw 6 Gorffennaf ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.

Oes tudalennau cyfrifo i'm helpu?

Tudalennau cyfrifo

Mae taflenni gwaith i'ch helpu i gyfrifo cyfwerth mewn arian parod y buddiant ar gyfer lle byw, buddiant car a thanwydd, faniau, benthyciadau di-log a llog isel, a chostau ail-leoli. Mae'r defnydd ohonynt yn ddewisol.

FPCS2
Ffurflen ddewisol i gyflogwyr sydd wedi cytuno ar gynllun elw penodedig car gyda'u Swyddfa Dreth i ddarparu gwybodaeth i weithwyr am lwfansau car a milltiroedd oni bai fod hyn wedi'u cynnwys dan oddefeb. Rhaid rhoi manylion am lwfansau car a milltiroedd i weithwyr perthnasol erbyn 6 Gorffennaf ar ôl diwedd y flwyddyn dreth. Gellir defnyddio'r FPCS2 at y diben hwn. Os na chytunwyd ar FPCS, dylid dangos lwfansau car a milltiroedd ar ffurflen P11D neu P9D.

P11D (Int)
Mae'r ffurflen hon yn cynnwys manylion am gyfraddau llog swyddogol a chyfraddau llog cyfartalog ar gyfer 2000-01. Rhaid cael y wybodaeth hon i gyfrifo'r budd sy'n codi o fenthyciadau di-log a llog isel.

Gallwch ddadlwytho ffurflenni, taflenni gwaith ac arweiniad ar sut i gwblhau eich ffurflen dreth diwedd blwyddyn ar gyfer buddiannau a threuliau (gan gynnwys P11D) o'r wefan hon.

Gallwch gael y deunydd hwn o'r Llinell Archebu Gymraeg ar 0845 7 660830 (yn ystod oriau gwaith) . Mae'n bosibl ei gael o Linell Archebu Pecyn Blynyddol y Cyflogwr (Saesneg yn unig) hefyd, sydd ar agor ar yr amserau canlynol:

· Llun - Gwener 8am - 8pm
· Sadwrn 10am - 1pm

Rhif ffôn Llinell Archebu Pecyn Blynyddol y Cyflogwr yw 08457 646 646

Gallwch hefyd archebu ffurflenni ar-lein trwy ddefnyddio'r ffurflen archebu.

Dyddiadau Allweddol

31 Mai O 1996/97 ymlaen mae dyddiad cau o 31 Mai ar ôl diwedd y flwyddyn dreth ar gyfer darparu ffurflenni P60 i weithwyr.
6 Gorffennaf Y dyddiad cau ar gyfer darparu manylion P11D i'r swyddfa dreth a gweithwyr perthnasol yw 6 Gorffennaf ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.
   
Hafan
   Brig  |  Dewislen