Cynnwys
Sut mae Hunanasesiad yn effeithio arna i? Nid yw'r rhan fwyaf o weithwyr yn derbyn ffurflen dreth i'w chwblhau ac mae eu treth incwm yn cael ei ddidynnu wrth y ffynhonnell gan eu cyflogwyr neu ddarparwyr pensiwn trwy'r system TWE, a fydd yn parhau fel o'r blaen. Anfonir ffurflenni treth at:
Pa gofnodion ddylwn i eu cadw? Dylai pawb sy'n talu treth, rywbryd neu'i gilydd, dderbyn cofnod o'r dreth a dalwyd. O Ebrill 1996, bydd yn ofynnol dan y gyfraith i chi gadw'r cofnodion hyn a chofnodion eraill er mwyn i chi allu cwblhau ffurflen dreth yn llawn ac yn fanwl gywir os gofynnir i chi wneud hynny. O'r flwyddyn dreth 1996-97 ymlaen, rhaid i gyflogwyr roi gwybodaeth arbennig i'w gweithwyr y mae ei hangen arnynt i'w helpu i gwblhau eu ffurflenni treth (os ydynt yn derbyn un). Dylech gadw'r wybodaeth ganlynol a dderbyniwch gan eich cyflogwr:
Gallwch gael manylion pellach am y cofnodion y dylech eu cadw yn SA/BK 4 - Hunanasesiad - Canllaw cyffredinol i gadw cofnodion. Sut ydw i'n cwblhau ac yn dychwelyd fy Ffurflen Dreth? Mae angen i gyflogeion gwblhau'r canlynol:
Mae eich pecyn ffurflen dreth Hunanasesiad yn cynnwys canllaw cam wrth gam ar sut i gwblhau pob adran eich ffurflen ynghyd â chanllaw ar sut i gyfrifo eich treth eich hun os ydych am wneud hynny. Sylwer: Ni fydd Canllaw i'r Ffurflen Dreth (SA150) na'r Cyfrifiad Treth (SA151C) yn cael eu hanfon atoch os ydych yn dychwelyd eich ffurflen yn electronig neu os yw eich asiant/ymgynghorydd treth yn dychwelyd eich ffurflen. Ond gallwch edrych ar y canllawiau hyn a/neu eu dadlwytho o'r safle hwn - gweler isod. Cwblhau a dychwelyd eich Ffurflen Dreth dros y Rhyngrwyd Gwybodaeth gyffredinol ar gwblhau a dychwelyd eich Ffurflen Dreth Cysylltiadau Eraill Beth sy'n digwydd ar ôl i mi ddychwelyd
fy Ffurflen Dreth? Sut a phryd ydw i'n talu fy nhreth? Bydd angen i chi dalu unrhyw dreth sy'n daladwy erbyn 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y cyfeiria'r ffurflen ati. Os ydych yn dychwelyd eich ffurflen dreth cyn 30 Medi ac mae eich bil treth terfynol yn llai na £2,000, byddwn yn gallu casglu eich treth trwy TWE y flwyddyn nesaf yn aml iawn. Os yw'n well gennych dalu'n uniongyrchol neu ni allwn gasglu eich bil trwy TWE, yna mae'n rhaid i chi dalu erbyn 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth. Bydd rhai pobl - pobl hunangyflogedig yn bennaf - hefyd yn gwneud dau daliad ar gyfrif ar gyfer y flwyddyn dreth cyn dyddiad dychwelyd y ffurflen ar gyfer y flwyddyn honno. Nid oes rhaid i'r rhan fwyaf o gyflogeion wneud taliadau ar gyfrif oherwydd:
Fel arfer seilir taliadau ar gyfrif ar y ffurflen dreth ar gyfer y flwyddyn flaenorol, ond mewn rhai amgylchiadau gallwch leihau'r taliadau hyn. Mae'r Canllaw Cyfrifo Treth yn dweud wrthych pryd y gallwch wneud hyn. Dewisiadau ar gyfer talu Mae nifer o wahanol ddewisiadau ar gael i dalu eich treth. Am fanylion ewch i adran Taliadau gwefan Cyllid y Wlad. Cysylltiadau Eraill Beth sy'n digwydd os yw fy nhaliad yn hwyr? |
|||||||
