Hunanasesiad: Partner

  Cynnwys
Beth os ydw i newydd ddechrau gwaith hunangyflogedig fel partner neu'n ystyried dechrau gwaith hunangyflogedig fel partner?

Pan fyddwch yn dechrau gweithio i chi'ch hun, bydd angen i chi gofrestru fel gweithiwr hunangyflogedig gyda Chyllid y Wlad. Mae'r adran Dechrau mewn Busnes ar wefan Cyllid y Wlad yn rhoi manylion llawn ynglyn â sut i gofrestru ac mae'n rhoi manylion am y prif faterion treth ac Yswiriant Gwladol sy'n gysylltiedig â rhedeg busnes.

Sut mae Hunanasesiad yn effeithio arna i?

Rydych yn hunangyflogedig os ydych mewn busnes ar eich pen eich hun ac nid ydych yn gweithredu trwy gwmni cyfyngedig. Gallai hyn gynnwys cyflenwi nwyddau neu wasanaethau trwy fusnes un person neu fusnes sy'n cyflogi pobl eraill. Byddwch hefyd yn hunangyflogedig os ydych yn bartner, naill ai mewn partneriaeth fawr neu gydag un partner yn unig.

Am fwy o wybodaeth ar bartneriaethau edrychwch ar 'Bartneriaethau'.

Roedd nifer o bobl hunangyflogedig am gael system dreth sy'n haws i'w dilyn.

Mae nodweddion allweddol Hunanasesiad yn cynnwys:

  • asesiad sy'n seiliedig ar y flwyddyn bresennol
  • un prif fan cyswllt ar gyfer eu materion treth
  • cosbau penodedig, awtomatig os ydych yn dychwelyd ffurflenni yn hwyr
  • goblygiadau clir o ran cadw cofnodion.

Asesiad ar sail y flwyddyn bresennol

Nodwedd bwysig i drethdalwyr hunangyflogedig yw cyflwyno asesiad ar sail y flwyddyn bresennol. Mae'r dyddiad dechrau ar gyfer hyn yn dibynnu ar bryd y dechreuoch chi eich busnes. Dan yr hen system, roedd eich asesiad treth yn seiliedig ar eich elw masnachu am y cyfnod o 12 mis yn diweddu yn y flwyddyn dreth cyn y flwyddyn roedd y ffurflen yn cyfeirio ati. Roedd rheolau cymhleth ar ddechrau ac ar ddiwedd y busnes.

Newidiodd hwn dan Hunanasesiad. Erbyn hyn, cyfrifir treth ar yr elw sy'n codi yn y flwyddyn dreth ei hun. Os yw'ch cyfnod cyfrifyddu yn wahanol i'r flwyddyn dreth, bydd y dreth yn cael ei chyfrifo ar yr elw sy'n codi yn y cyfnod cyfrifyddu o 12 mis sy'n diweddu yn y flwyddyn dreth.

Os dechreuoch waith hunangyflogedig neu os dechreuoch eich partneriaeth busnes ar 6 Ebrill 1994 neu'n hwyrach, bydd treth wedi'i chodi o'r cychwyn ar sail y flwyddyn bresennol.

Pa gofnodion ddylwn i eu cadw?

Tan yn ddiweddar, nid oedd unrhyw ofyniad cyfreithiol arnoch i gadw cofnodion ar gyfer treth incwm, er bod Tollau Tramor a Chartref yn ei gwneud yn ofynnol i fasnachwyr cofrestredig gadw cofnodion ar gyfer TAW. Ond, rydym bob amser wedi cynghori busnesau ei bod er eu lles nhw eu hunain i gadw'r holl gofnodion sydd eu hangen ac sy'n help i baratoi cyfrifon a ffurflenni treth. Mae rheolau a gyflwynwyd yn Neddf Cyllid 1994 yn golygu bod angen i chi gadw'r holl gofnodion priodol bellach.

Fel rheol byddwn yn disgwyl i chi:

  • gofnodi pob gwerthiant a derbyniadau busnes eraill wrth iddynt gyrraedd, a chadw'r cofnod
  • cadw cofnodion wrth gefn, er enghraifft, anfonebau, cyfriflenni banc a slipiau talu i mewn, er mwyn dangos o ble y daeth yr incwm
  • cofnodi'r holl eitemau a brynwyd a threuliau eraill wrth iddynt godi a sicrhau - oni bai fod y symiau yn fach iawn - bod gennych anfonebau ar eu cyfer a'ch bod yn eu cadw
  • cadw cofnod o'r holl asedion a brynwyd ac a werthwyd a ddefnyddir yn eich busnes
  • cofnodi pob swm a godir o gyfrif banc y busnes, neu mewn arian parod, at eich defnydd personol chi neu at ddefnydd eich teulu
  • cofnodi pob swm a dalwyd i'r busnes o gronfeydd personol, er enghraifft, elw polisi yswiriant bywyd.

Bydd rhaid i chi gadw eich cofnodion am bum mlynedd o'r dyddiad diweddaraf y gallwch ddychwelyd eich ffurflen dreth.

Gallwch gael mwy o wybodaeth ar gadw cofnodion yn SA/BK3 - Hunanasesiad. Canllaw ar gadw cofnodion i'r hunangyflogedig.

Sut ydw i'n cwblhau ac yn dychwelyd fy Ffurflen Dreth?

Os ydych yn bartner bydd angen i chi lenwi:

  • y Ffurflen Dreth graidd (SA100)
  • tudalennau atodol y bartneriaeth (fersiwn byr SA104 neu fersiwn llawn SA104F)
  • unrhyw dudalennau atodol eraill sy'n perthnasol i chi h.y. Enillion Cyfalaf. Dylech gyfeirio at dudalen 2 y Ffurflen Dreth.

Mae eich pecyn ffurflen dreth hunanasesiad yn cynnwys canllaw cam wrth gam ar sut i gwblhau pob adran eich ffurflen ynghyd â chanllaw ar sut i gyfrifo eich treth os ydych am wneud hynny.

Sylwer: Ni chewch Canllaw i'r Ffurflen Dreth (SA150) a Chyfrifiad Treth (SA151C) os ydych yn anfon eich ffurflen yn electronig neu os yw'ch asiant/ymgynghorydd treth yn anfon eich ffurflen drosoch. Ond gallwch edrych ar y canllawiau hyn a/neu eu dadlwytho o'r safle hwn - gweler isod.

Mae'r Ffurflen Dreth Partneriaeth yn cael ei chwblhau gan y partner enwebedig ac mae'n cynnwys cyfriflen Partneriaeth sy'n crynhoi'r elw, colled, incwm a symiau eraill a ddyrannwyd i'r partneriaid.

Dylai'r partner enwebedig sicrhau bod yr wybodaeth y mae ei hangen ar bartneriaid unigol er mwyn cwblhau eu Ffurflenni Treth unigol yn cael ei rhoi iddynt cyn gynted â phosib.

Mae dau fath o Gyfriflen Partneriaeth

  • Fersiwn 'byr', cryno os mai eich unig incwm o'r bartneriaeth oedd cyfran o'r incwm masnachu neu broffesiynol; neu log gyda threth wedi'i thynnu o fanciau, cymdeithasau adeiladu neu dderbynwyr adneuon
  • Fersiwn 'llawn' os oes unrhyw incwm partneriaeth arall gennych o'r bartneriaeth.

Mae fersiynau 'byr' a 'llawn' cyfatebol o'r tudalennau Partneriaeth ar gael. Os ydych yn derbyn cyfriflen Partneriaeth 'fyr' byddwch yn cwblhau'r tudalennau Partneriaeth byr ac yn yr un modd gyda'r fersiwn 'llawn'.

Cwblhau a dychwelyd eich Ffurflen Dreth dros y Rhyngrwyd

Gwybodaeth gyffredinol ar gwblhau a dychwelyd eich Ffurflen Dreth

Cysylltiadau Eraill

Beth sy'n digwydd ar ôl i mi ddychwelyd fy Ffurflen Dreth?
Beth os ydw i'n colli'r dyddiad cau ar gyfer dychwelyd fy ffurflen?
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml: Cwblhau a dychwelyd eich Ffurflen Dreth

Sut a phryd ydw i'n talu fy nhreth?

Bydd rhaid i chi dalu unrhyw dreth sy'n daladwy erbyn 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y mae'r ffurflen yn cyfeirio ati.

Efallai y bydd rhaid i chi hefyd wneud dau daliad ar gyfrif ar gyfer y flwyddyn dreth cyn y dyddiad pan fydd rhaid i chi gyflwyno'r ffurflen ar gyfer y flwyddyn honno.

Telir taliadau ar gyfrif ar:

  • 31 Ionawr yn y flwyddyn dreth a
  • 31 Gorffennaf ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (chwe mis yn ddiweddarach).

Os yw swm y ddau daliad hyn yn fwy neu'n llai na'r dreth sy'n daladwy mewn gwirionedd ar gyfer y flwyddyn dreth honno, bydd taliad o'r gweddill (neu ad-daliad) yn daladwy ar y 31 Ionawr dilynol.

Faint fyddwch chi'n ei dalu ar gyfrif?

Os ydych yn cyfrifo eich treth eich hun, byddwch hefyd yn cyfrifo eich taliadau ar gyfrif eich hun. Bydd pob taliad ar gyfrif yn un hanner y bil treth incwm ar gyfer y flwyddyn flaenorol ar ôl didynnu'r dreth a dalwyd wrth y ffynhonnell e.e. TWE.

Os ydym yn cyfrifo eich treth drosoch, byddwn hefyd yn dweud wrthych os oes rhaid i chi wneud taliadau ar gyfrif a faint i'w dalu.

Ni fydd angen i chi wneud taliadau ar gyfrif:

  • os oedd eich bil treth incwm ar gyfer y flwyddyn flaenorol yn llai na £500
  • os cafodd mwy na 80 y cant o'ch treth incwm ar gyfer y flwyddyn flaenorol ei dalu wrth y ffynhonnell e.e. dan TWE
  • ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf.

Mewn rhai amgylchiadau, gallwch ofyn i ni ostwng eich taliadau ar gyfrif. Bydd y Canllaw Cyfrifo Treth yn dweud wrthych pryd y gallwch wneud hyn.

Dewisiadau ar gyfer talu

Mae sawl opsiwn gwahanol ar gael ar gyfer talu eich treth. Am fanylion edrychwch ar adran Taliadau ar wefan Cyllid y Wlad.

Cysylltiadau Eraill

Beth sy'n digwydd os yw fy nhaliad yn hwyr?
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml: taliadau a Datganiadau o Gyfrif

 
   
Hafan
   Brig  |  Dewislen