| |
|
| 1. |
Casglwch eich holl gofnodion treth ynghyd e.e.
cyfriflenni banc a chymdeithas adeiladu, enillion busnes, treuliau,
neu gyfrifon lle y bo'n briodol. Os ydych ar TWE mae'n debyg y byddwch
yn cael P60 ac efallai cewch gopi o ffurflen P11D gan eich cyflogwr.
Os ydych wedi newid swyddi, dylai fod gennych P45 Rhan 1A. |
| |
|
| 2. |
Os ydych wedi derbyn ffurflen dreth bapur darllenwch
dudalennau 1 a 2 yn gyntaf. Penderfynwch os ydych am ddychwelyd
eich Ffurflen Dreth dros y Rhyngrwyd. Cewch fanylion am hyn ar
ein tudalennau Gwasanaeth Rhyngrwyd
ar gyfer Hunanasesiad. |
| |
|
| 3. |
Penderfynwch os ydych am ddychwelyd eich ffurflen erbyn 30
Medi neu 31 Ionawr.
30 Medi ar ôl diwedd y flwyddyn dreth
- Mae'n rhaid i ni dderbyn eich ffurflen dreth erbyn 30 Medi os
ydych am i ni gynnwys unrhyw dan-daliad sy'n llai na £2000
yn eich rhif côd TWE
- Byddwn yn cyfrifo eich treth ac yn rhoi gwybod i chi faint sy'n
daladwy erbyn y dyddiad talu, 31 Ionawr os byddwn yn derbyn eich
ffurflen erbyn y dyddiad hwnnw. Os byddwn yn derbyn eich ffurflen
ar ôl y dyddiad hwn ac nid ydych wedi cyfrifo eich treth,
byddwn yn gwneud hyn drosoch ond ni allwn warantu y byddwn yn
rhoi gwybod i chi faint i'w dalu erbyn 31 Ionawr.
Cofiwch: Os ydych yn cyflwyno eich Ffurflen Dreth dros y
Rhyngrwyd bydd y Meddalwedd a'r ffurflenni Ar-lein yn cyfrifo eich
bil treth ar eich rhan.
31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth
- Dyma'r dyddiad cau ar gyfer dychwelyd eich ffurflen dreth neu
bydd rhaid i chi dalu cosb awtomatig o £100.
Nodwch: Gall y dyddiadau cau ar gyfer Ffurflenni Partneriaeth
fod yn wahanol - edrychwch ar yr adran "Sut ydw i'n cwblhau
a dychwelyd fy Ffurflen Dreth?" dan yr adran Partneriaethau.
|
| |
|
| 4. |
Os ydych yn bwriadu anfon ffurflen bapur gwnewch yn siwr bod
gennych yr holl dudalennau y mae eu hangen arnoch trwy lenwi
tudalen dau eich ffurflen dreth.
Os bydd angen tudalennau ychwanegol arnoch:
- ffoniwch Linell Archebu Hunanasesiad ar 0845 9000 404.
Mae ar agor o 8 a.m. - 10 p.m., saith diwrnod yr wythnos
a chodir galwadau ar gyfraddau lleol.
- fel arall, gallwch ffacsio'ch archeb i Linell Archebu
HA ar 0845 9000 604 neu anfonwch e-bost at St
Austell Orderline
- os ydych yn ffonio o dramor, rhif ffôn y Llinell
Archebu HA yw: 44 870 1555664 neu ffacs: 44 870 1555778
- dadlwythwch y ffurflenni perthnasol
yma
|
| |
|
| 5. |
Cwblhewch y ffurflen dreth trwy ddilyn y nodiadau arweiniad
yn y Ffurflen Dreth a'r Canllaw i'r Ffurflen Dreth. Dylech sicrhau
eich bod yn eu deall ac yn sicr o'r ffigurau rydych am eu nodi cyn
llenwi'r ffurflen.
Sylwer: Ni fyddwch yn derbyn y Canllaw i'r Ffurflen Dreth
os ydych chi fel arfer yn anfon eich ffurflen dreth neu os yw'ch
asiant/ymgynghorydd treth yn anfon eich ffurflen dreth ar eich rhan
trwy ddull electronig.
|
| |
|
| 6. |
Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â'r:
- tîm Hunanasesiad yn eich Swyddfa Cyllid y Wlad (mae'r
rhif ffôn ar frig eich ffurflen)
- neu os yw'r swyddfa ar gau, ffoniwch Linell Gymorth Hunanasesiad
(Cymraeg) ar 0845 7 660 830 neu ffoniwch Linell Gymorth Hunanasesiad
(*Saesneg) ar 0845 9000 444. *Mae ar agor yn yr hwyr ac ar y penwythnos
a chodir tâl ar y gyfradd leol am y galwadau. (Os ydych
yn ffonio o dramor, y rhif ffôn yw: 44 541 555445).
|
| |
|
| 7. |
Edrychwch dros eich ffurflen dreth ar ôl i chi ei
gorffen, gan sicrhau nad ydych wedi anghofio unrhyw beth, fel ei
llofnodi a chynnwys eich holl dudalennau atodol a ffurflenni perthnasol
fel CIS25 (talebau Cynllun y Diwydiant Adeiladu). Yn olaf, gwnewch
yn siwr eich bod yn ei hanfon atom naill ai erbyn 30 Medi neu 31
Ionawr.
Cofiwch
- po gynharaf rydych yn cwblhau eich ffurflen dreth, po fwyaf
o amser fydd gennych i gael cymorth gennym os oes ei angen arnoch.
- nid yw anfon eich ffurflen dreth yn gynharach yn golygu y
bydd rhaid i chi dalu treth yn gynharach.
|