| Mae'r canlynol yn esbonio rhai o dermau Cyllid y Wlad a ddefnyddir
ar dudalennau Hunanasesiad y Rhyngrwyd.
Sylwer: Seilir y diffiniadau hyn ar ddiffiniadau geiriadur safonol
ac fe'u nodir er arweiniad yn unig. Efallai y bydd angen i chi eu trafod
gyda'ch swyddfa dreth neu'ch ymgynghorydd treth.
Apêl
Pennir y drefn apelio dan y gyfraith er mwyn i dribiwnlys annibynnol allu
datrys anghydfodau rhyngoch chi a Chyllid y Wlad.
Ased
Unrhyw eiddo y mae unigolyn neu gwmni yn berchen arno.
Blwyddyn dreth
Mae'n dechrau ar 6 Ebrill mewn un flwyddyn ac yn gorffen ar 5 Ebrill y
flwyddyn nesaf.
Bonion (difidend)
Rhan o rybudd difidend sy'n dangos manylion y swm a dderbyniwyd o gyfranddaliadau.
Buddiannau
Buddiannau, a ddarperir mewn rhyw ffurf heblaw arian parod fel arfer.
Cofrestru
I ddefnyddio'r gwasanaeth Rhyngrwyd ar gyfer Hunanasesiad ac anfon eich
Ffurflen Dreth dros y Rhyngrwyd, mae'n rhaid i chi gofrestru
yn gyntaf ar gyfer y gwasanaeth.
Colledion a ganiateir
Gall fod modd cael gostyngiad pan fyddwch yn gwerthu rhywbeth sydd wedi
gostwng o ran gwerth. Gellir gosod colledion sy'n codi fel hyn yn erbyn
unrhyw enillion y byddai'n rhaid i chi dalu treth arnynt fel arall. Yn
yr un modd, os ydych wedi gwneud colled yn eich busnes, gellir defnyddio'r
golled hon i ostwng swm y dreth rydych yn ei dalu ar incwm arall, er enghraifft,
unrhyw elw yn y dyfodol o'r busnes hwnnw.
Cosb
Mae cosb yn swm ychwanegol y gellir ei godi mewn rhai amgylchiadau. Er
enghraifft, os nad ydych yn dychwelyd eich Ffurflen Dreth erbyn y dyddiad
cau, os nad ydych yn cadw cofnodion digonol i gefnogi eich Ffurflen Dreth,
neu os yw'ch ffurflen yn anghywir oherwydd twyll neu esgeulustod.
Cyfranddaliadau
Mae cyfranddaliad yn rhan unigol o gyfalaf cwmni y mae cyfranddaliwr yn
berchen arno. Cyfranddaliadau 'heb eu dyfynnu' (neu heb eu rhestru) yw'r
cyfranddaliadau hynny sydd heb eu rhestru yn rhestr swyddogol Cyfnewidfa
Stoc.
Cynllun Elw Penodedig Car
Trefniant gwirfoddol yw hwn rhwng cyflogwr a Chyllid y Wlad. Dan y cynllun
hwn mae cyflogeion sy'n defnyddio eu ceir eu hunain ar gyfer teithiau
busnes yn talu treth dim ond ar y swm y mae'r lwfansau car neu filltiroedd
a dderbyniwyd gan y cyflogwr yn fwy na thabl Cyllid y Wlad o gyfraddau
milltiroedd di-dreth.
Cynrychiolydd personol
Cynrychiolydd personol yw'r person sy'n gyfrifol am setlo materion rhywun
sydd wedi marw. Gallant gael eu galw'n ysgutor neu'n weinyddwr hefyd.
Datganiad o gyfrif
Anfonir Datganiad o gyfrif atoch ym mis Rhagfyr ac ar adegau eraill i
ddangos y sefyllfa bresennol ynglyn â'ch treth.
Difidendau
Incwm o gyfranddaliadau.
Difidendau sgrip
Gweler 'Ddifidendau Stoc'.
Difidendau stoc
Cyfranddaliadau a roddir yn lle difidend mewn arian parod, neu fel dyroddiad
bonws sy'n codi o ddosbarth arbennig o gyfranddaliadau sy'n cynnwys hawliau
i ddyroddiadau bonws.
Dyddiad cau
Y diwrnod cau ar gyfer derbyn eich ffurflen dreth wedi'i chwblhau (os
ydych yn derbyn un).
Elw annisgwyl
Elw ariannol annisgwyl.
Gordal
Os nad yw treth wedi ei thalu erbyn 28 Chwefror mae'n rhaid i chi dalu
gordal o 5% o'r swm sy'n weddill. Codir gordal o 5% arall os yw'r dreth
heb gael ei thalu erbyn 31 Gorffennaf.
Mae'r Llyfryn SA/BK7
- Hunanasesiad - Gordaliadau am dalu treth yn hwyr yn darparu
gwybodaeth bellach am ordaliadau ar gyfer talu treth yn hwyr. Gallwch
edrych arno ar y safle hwn neu gael copi ohono o'ch Swyddfa
Cyllid y Wlad leol.
Gwariant/a wariwyd
Gwariant yw'r arian a wariwyd.
Gwasanaeth Cyflwyno Electronig (GCE)
Mae'r GCE yn galluogi asiantau i gyflwyno gwybodaeth y Ffurflen Dreth
yn syth i gyfrifiadur Cyllid y Wlad trwy borth diogel un-pwrpas. Mae Cyllid
y Wlad hefyd yn anfon copïau electronig i asiantau cyfranogi o'r
holl Ddatganiadau o Gyfrif a anfonwyd at eu cleientiaid.
Gwasanaeth Rhyngrwyd ar gyfer Hunanasesiad
Mae'r gwasanaeth hwn yn caniatáu i chi gwblhau eich Ffurflen Dreth
a'i hanfon dros y Rhyngrwyd. Am fwy o wybodaeth edrychwch ar dudalennau
Gwasanaeth Rhyngrwyd ar gyfer Hunanasesiad.
Gweithredoedd cyfamod elusennol
Mae gweithred cyfamod yn ddogfen gyfreithiol a thrwyddi mae unigolyn yn
addo talu swm penodol o arian bob blwyddyn. At ddibenion treth, dylai
cyfamod i elusen allu para cyfnod o fwy na thair blynedd; mae'r rhan fwyaf
o gyfamodau elusennol yn para pedair blynedd.
Gwerthwr
Unigolyn sy'n gwerthu rhywbeth.
Gwrth gyfrifo
Gallwch wrth gyfrifo (didynnu) swm o dreth a ad-dalwyd yn erbyn rhyw rwymedigaeth
treth arall.
Incwm
Symiau arian a enillwyd neu a dderbyniwyd dros gyfnod penodol o amser,
| e.e. |
Cyflog |
£12,000 y.f. |
| |
Llog ar gynilion |
£2,000 y.f. |
| |
Cyfanswm incwm |
£14,000 y.f. |
Incwm trethadwy
Fel arfer rydych yn talu treth ar, er enghraifft:
- enillion o waith amser llawn neu ran-amser, gan gynnwys cildyranu
a bonysau
- elw o fusnes
- difidendau o gyfranddaliadau mewn cwmni
- llog o fuddsoddiadau Cynilion Cenedlaethol
- budd-dal diweithdra
- llog o gynilion gyda banc neu gymdeithas adeiladu
- incwm o eiddo.
Isgontractiwr
Unigolyn neu gwmni sy'n ymrwymo (neu'n 'isgontractio') i gwblhau rhan
o gontract contractiwr arall.
Lwfans personol
Gallwch gael swm o incwm ym mhob blwyddyn dreth cyn talu treth. Gelwir
y swm yn lwfans personol (£4,535 yn 2001-2002 i bobl dan 65 oed).
Os yw'ch incwm yn is na hyn yn y flwyddyn dreth, ni fydd rhaid i chi dalu
unrhyw dreth. Efallai y bydd gennych lwfansau eraill sy'n cynyddu'r incwm
y gallwch ei dderbyn heb dalu treth.
Llafur yn unig
Os yw isgontractiwr yn cyflenwi ei lafur yn unig ac nid yw'n cyflenwi
unrhyw ddeunyddiau.
Llinell Archebu Hunanasesiad
Mae gwasanaeth Llinell Archebu Hunanasesiad ar gyfer trethdalwyr ac asiantau.
Mae'r gwasanaeth yn cynnig man cyswllt canolog ar gyfer deunydd sydd wedi'i
argraffu'n barod, gan gynnwys tudalennau atodol i'r ffurflen dreth, taflenni
cymorth a ffurflenni a thaflenni eraill y sonnir amdanynt yn y Canllaw
i'r Ffurflen Dreth. Mae'r gwasanaeth (*Saesneg) ar gael saith diwrnod
yr wythnos o 8 a.m. i 10 p.m. (codir tâl ar y gyfradd leol am y
galwadau hyn). Cysylltwch â'r llinell archebu:
- trwy ffonio 0845 7 660830 (Cymraeg) yn ystod oriau gwaith neu
anfon ffacs ar 01766 516100.
- trwy ffonio ar 0845 9000 404 (Saesneg) (Minicom: 08459 000 404
bydd ein gweithredydd yn trosglwyddo'r alwad i'n Minicom, byddwch
yn barod i aros hyd at 30 eiliad tra bo hyn yn cael ei wneud).
- trwy anfon ffacs ar 0845 9000 604
- trwy'r post i:
o Llinell Archebu HA
Blwch Post 37
St Austell
Cernyw
PL25 5YN
- trwy anfon e-bost at St
Austell Orderline
- o dramor: Côd mynediad rhyngwladol gyda
44 870 1555664
44 870 1555778 (ffacs)
Gallwch ddadlwytho'r ffurflen dreth a'r taflenni cymorth o'n tudalennau
hunanasesiad hefyd. (Cysylltwch â'r dudalen Ffurflenni Treth a Nodiadau).
Llinell Gymorth Hunanasesiad
Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â'r tîm Hunanasesiad
yn eich Swyddfa Dreth (mae'r rhif ffôn ar ben eich ffurflen). Gallwch
ffonio Llinell Gymorth Hunanasesiad (Cymraeg) ar 0845 7 660 830 neu os
yw'r swyddfa ar gau, gallwch ffonio Llinell Gymorth Hunanasesiad (*Saesneg)
ar 0845 9000 444.
Mae Llinell Gymorth Hunanasesiad yn wasanaeth ffôn cenedlaethol
sy'n darparu cymorth, cyngor a gwybodaeth ar ystod eang o ymholiadau Hunanasesiad,
i drethdalwyr, asiantau a chyflogwyr.
Mae'r *gwasanaeth ar gael yn yr hwyr ac ar y penwythnos ac mae ar agor
bob diwrnod o'r flwyddyn, ac eithrio 25 a 26 Rhagfyr a 1 Ionawr. Codir
tâl ar y gyfradd leol am y galwadau hyn.
Os ydych yn ffonio o dramor deialwch 44 541 555445.
Llyfryn SA/BK6 - Hunanasesiad
- Cosbau am ffurflenni treth hwyr
Mae'n darparu gwybodaeth bellach ynglyn â chosbau am anfon ffurflenni
treth yn hwyr. Gallwch ei weld ar y wefan hon neu gael copi ohono o'ch
Swyddfa Cyllid y Wlad leol.
Meddalwedd a Ffurflenni Ar-lein
Amrywiaeth o Feddalwedd a Ffurflenni Ar-lein y gallwch eu defnyddio i
gwblhau eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad a'i hanfon atom dros y Rhyngrwyd.
Penderfyniad
Penderfyniad yw ein hamcangyfrif ni o'ch bil treth am y flwyddyn (ffurflen
SA323).
Premiwm
Swm a delir yn ychwanegol i gyfradd safonol, pris, cyflog ac ati. Er enghraifft,
unrhyw swm dros ben a dalwyd sy'n fwy na gwerth isafol dyroddiad cyfranddaliadau.
Prisiad
Amcangyfrif ffurfiol o werth eiddo ac ati.
Rhwymedigaeth
Swm y dreth sy'n daladwy o'ch incwm, enillion neu elw.
Slip talu
Mae slip talu yn ddalen i'w datgysylltu sydd ynghlwm wrth ffurflen arall
ac sydd â manylion am swm y dreth sy'n daladwy. Bydd hyn naill ai
wedi cael ei gwblhau gan Gyllid y Wlad neu bydd angen i'r trethdalwr ei
gwblhau. Dylech amgáu hwn gyda'ch taliad.
Taliadau ar gyfrif
Dan Hunanasesiad, mae rhai pobl yn gwneud dau daliad ar gyfrif o dreth
cyn y dyddiad talu terfynol. Seilir Taliadau ar Gyfrif ar y dreth ar gyfer
y flwyddyn dreth flaenorol. Maen nhw'n daladwy ar 31 Ionawr yn y flwyddyn
dreth a 31 Gorffennaf ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.
Treth Enillion Cyfalaf
Mae enillion cyfalaf yn codi pan fydd rhywbeth sy'n eiddo i chi (hynny
yw, ased):
- yn cael ei roi i ffwrdd, ei gyfnewid, ei werthu neu ei waredu mewn
rhyw ffordd arall, ac
- mae ei werth wedi cynyddu ers i chi ei gaffael.
Mae enghreifftiau yn cynnwys stociau a chyfranddaliadau, tir a busnesau.
Ni chodir treth ar yr ased ond ar y cynnydd yn ei werth.
Treth incwm
Os ydych yn ennill neu'n derbyn incwm dros swm penodol mewn blwyddyn dreth
- sy'n rhedeg o 6 Ebrill mewn un flwyddyn i 5 Ebrill y flwyddyn nesaf
- rydych yn talu treth incwm. Po fwyaf rydych yn ei ennill, y mwyaf rydych
yn ei dalu. Fel arfer, bydd eich cyflogwr yn cymryd y dreth yn syth o'ch
enillion bob tro y cewch eich talu, ac yn ei drosglwyddo i ni. Rydych
chi'n derbyn y gweddill. Yr enw am y ffordd hon o ddidynnu treth yw TWE
(Talu Wrth Ennill).
Treth ymddiriedolaeth unedol
Y dreth a godir ar incwm o ymddiriedolaeth unedol. Mae ymddiriedolaeth
unedol yn ymddiriedolaeth fuddsoddi sy'n dyroddi unedau i'w gwerthu i'r
cyhoedd. Mae'r rheiny sydd ag unedau yn gredydwyr, nid cyfranddalwyr,
ac mae eu buddiannau'n cael eu cynrychioli gan gwmni ymddiriedolaeth sy'n
annibynnol o'r asiantaeth ddyroddi.
TWE
Mae'n golygu Talu Wrth Ennill. Os ydych yn gweithio i rywun arall bydd
eich cyflogwr yn cymryd y dreth angenrheidiol (a'r Cyfraniadau Yswiriant
Gwladol) o'ch enillion bob diwrnod talu ac yn ei drosglwyddo i Gyllid
y Wlad.
Ymchwiliadau
Gallwn ofyn cwestiynau i chi ynghylch y cofnodion ar eich Ffurflen Dreth.
Os byddwn yn gwneud hyn, byddwn yn ysgrifennu atoch gan ddweud wrthych
ein bod yn cynnal 'ymchwiliad'. Fel rheol, bydd hyn o fewn blwyddyn o'r
dyddiad cau er mwyn dychwelyd eich ffurflen dreth, ond gall fod yn hwyrach
na hyn os ydych yn dychwelyd eich ffurflen dreth yn hwyr.
Os byddwn yn cynnal ymchwiliad i'ch ffurflen, byddwn hefyd yn esbonio
beth fydd yn digwydd a beth yw'ch hawliau, trwy anfon llyfryn atoch o'r
enw 'Côd Ymarfer 11 - Ymchwiliadau i Ffurflenni Treth gan Swyddfeydd
Treth lleol' atoch, neu grynodeb o'r llyfryn hwnnw.
Ymddiriedolwr
Mae ymddiriedolwr yn unigolyn neu'n gwmni sy'n dal eiddo mewn ymddiriedolaeth
er budd un neu ragor o fuddiolwyr.
|